Buddugol yn Eisteddfod Boduan 2023

Buddugol yn Eisteddfod Tregaron 2022

Y Dinesydd Medi 2022

 

Côr Hen Nodiant

Côr o bobl hŷn ardal Caerdydd a ffurfiwyd yn 2008 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Mae’r côr wedi ennill y Gystadleuaeth Gorawl i Bensiynwyr yn 2010, 2011, 2012, 2013 a 2014 (o dan yr enw Côr y Mochyn Du) ac yn 2015, 2016, 2017, 2018, 2019 a 2022.

Gallwch gysylltu â’r côr drwy ebost: corhennodiant@gmail.com

Arweinyddion:
Catrin Williams
Marian Evans

Cyfeilydd: Marged Jones

Cyn-Arweinyddion:
Huw Foulkes
Sioned James 

Côr Hen Nodiant – Ymlaen at 2022

Mae Côr Hen Nodiant yn ail-afael yn yr ymarferion yn ystod yr wythnosau nesaf, ac yn awyddus i ddenu aelodau newydd, yn arbennig tenoriaid a baswyr.
   Cynhelir yr ymarferion ar nos Fercher yng Nghaerdydd ac mae gofyn i’r aelodau fod yn 60 oed erbyn Awst 2il 2022.
   Os oes diddordeb gennych ymuno mewn côr sydd wedi ennill deg waith yn  olynol yn y Genedlaethol – cyfle sydd ddim yn dod yn aml  – cysylltwch â corhennodiant@gmail.com

 


Ennill am y degfed tro yn Eisteddfod Llanrwst 2019

Ennill yn Eisteddfod Caerdydd 2018

 

Cyhoeddi CD Hoff Emynau

Mae Côr Hen Nodiant wedi creu CD sy’n cynnwys 15 o emynau Cymraeg traddodiadol.

Yn ogystal â’r CD mae llyfryn yn cynnwys geiriau a thonau’r hoff emynau hyn ynghyd â nodiadau ar fywyd a gwaith y cyfansoddwyr a’r awduron. Prif awdur yr emynau yn y gyfrol hwn yw William Williams, Pantycelyn, ac mae’n deyrnged i’w gyfraniad aruthrol i fywyd ysbrydol a diwylliannol ein cenedl.

Mae Côr Hen Nodiant yn un o’r corau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru ac eleni mae’n dathlu deng mlwyddiant ei sefydlu. O dan arweinyddiaeth Huw Foulkes mae’r côr yn ymarfer yng Nghapel Salem, Treganna, ac yno hefyd y recordiwyd yr emynau gyda’r Organydd Dafydd Wrenall.

Mae’r côr yn gwerthfawrogi gwaith Ted Clement-Evans sydd wedi ysbrydoli’r casgliad arbennig hwn. Mae’n cynnwys rhai o ffefrynnau’r genedl – Aberystwyth, Blaenwern a Builth – ond hefyd ambell i dôn anghyfarwydd megis Mawl Gan a Manley Park.

Mae’r CD ar werth gan aelodau’r Côr. – corhennodiant@gmail.com

 

 

Cyngerdd i Ystafell Fyw yn Eglwys San Pedr 14 Rhagfyr 2018
Cyngerdd Eglwys Dewi Sant 13 Hydref 2018