Y Dinesydd Medi 2022
Côr Hen Nodiant – Ymlaen at 2022
Mae Côr Hen Nodiant yn ail-afael yn yr ymarferion yn ystod yr wythnosau nesaf, ac yn awyddus i ddenu aelodau newydd, yn arbennig tenoriaid a baswyr.
Cynhelir yr ymarferion ar nos Fercher yng Nghaerdydd ac mae gofyn i’r aelodau fod yn 60 oed erbyn Awst 2il 2022.
Os oes diddordeb gennych ymuno mewn côr sydd wedi ennill deg waith yn olynol yn y Genedlaethol – cyfle sydd ddim yn dod yn aml – cysylltwch â corhennodiant@gmail.com
Ennill am y degfed tro yn Eisteddfod Llanrwst 2019
Ennill yn Eisteddfod Caerdydd 2018
Eisteddfod Glyn Ebwy 2010 Sioned James yn arwain a Branwen Gwyn yn cyfeilio
Ennill am y tro cyntaf yn 2010
Sioned James a’i Mam yn dathlu yn 2010
Eisteddfod Dinbych 2013. Huw Foulkes yn arwain. Ieuan Jones yn cyfeilio.
Marian, Huw a Marged yn Eisteddfod Y Fenni 2016