Ar drothwy 2008 yng nghanol hwyl Parti Nos Galan Tafarn y Mochyn Du plannwyd y syniad fod cyfle newydd yn agor wrth heneiddio. Roedd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2008. Felly beth am ffurfio côr pensiynwyr?

Dyna’r syniad dwl ddaeth allan o’r sgwrs wrth i ganol nos agosáu.

Ond a fyddai unrhyw un yn cofio’r sgwrs y bore wedyn?

Wel o fewn pythefnos roedd dros 40 o bobl wedi penderfynu dod at ei gilydd i weld beth oedd yn bosib.

Yn ffodus iawn roedd Sioned James, Arweinydd Côrdydd, yn y dafarn y noson honno ac yng nghanol yr hwyl cytunodd i roi cymorth i’r côr ifanc.

Doedd hi ddim yn hawdd dod â chriw newydd at ei gilydd. Rhai wedi canu mewn corau eraill a rhai heb ganu mewn unrhyw gôr a ddim yn darllen cerddoriaeth. Roedd rhaid dysgu’n gyflym a gweithio’n galed i ddechrau ar y daith. Cafodd y côr groeso i ymarfer yng Nghapel Salem a dechreuodd y gwaith o ddifri bob nos Fercher. Yr un peth oedd yn cadw llawer i fynd oedd yr addewid o gymdeithasu a diferyn yn Nhafarn y Mochyn Du ar ôl yr ymarfer caled. A dyna ddewiswyd yn enw ar y côr wrth i’r ffurflen gais cystadlu fynd i mewn ym mis Ebrill.

Wrth i’r Eisteddfod agosáu penderfynwyd ymarfer dwy waith yr wythnos a daeth cwmni ITV draw i weld y paratoadau.

Roedd yr Eisteddfod ar garreg y drws ar gaeau Pontcanna ond doedd hynny ddim o’n plaid wrth i ni gystadlu yn erbyn corau llawer mwy profiadol.

Bu rhaid aros yn amyneddgar am dair blynedd cyn i ni gael llwyddiant.

  Eisteddfod Caerdydd 2008


Diolch i Sioned yn y Mochyn Du yn 2008

 

Sioned James 1974 – 2016

Dawn cerddorol a dycnwch Sioned oedd wedi sicrhau fod criw o bobl hŷn yn gallu dod at ei gilydd a llwyddo i ddysgu cerddoriaeth o’r radd uchaf. Daeth i fwynhau fod yn rhan o’r gymdeithas o bensiynwyr a hoffai’r cyfle i gymdeithasu yn ein plith.

Tristwch mawr i’r côr oedd colli Sioned a hithau wedi rhoi cymaint i ni a’n herio i gyrraedd safonau cerddorion proffesiynol.